Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 14 Mehefin
2017
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4297
Gweld Cofnod y Trafodion
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 5 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd y 3 chwestiwn.
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
Dechreuodd yr eitem am 14.34
Gwnaeth Darren Millar ddatganiad i nodi 35 mlynedd ers diwedd rhyfel y Falklands.
Gwnaeth Nathan Gill ddatganiad ar ganser y coluddyn.
Dechreuodd yr eitem am 14.38
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6304 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Paul Davies AC gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd ar 4 Mai 2017 o dan Reol Sefydlog 26.91A.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
9 |
0 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 15.41
NDM6311
Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd)
Hefin
David (Caerffili)
Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir
Benfro)
Mark
Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn llongyfarch staff GIG Cymru am drin a gwella'r nifer uchaf erioed o gleifion â Hepatitis C.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau ei hymrwymiad i ddyddiad dileu Hepatitis C Sefydliad Iechyd y Byd o 2030.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried canllawiau gweithredu newydd er mwyn cefnogi'r GIG i weithio tuag at ddileu Hepatitis C yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.27
NDM6329 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Y Darlun Mawr - Safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2017.
2. Yn cytuno y dylai S4C, wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor i'r perwyl hwn, osod adroddiadau ariannol a datganiadau archwiliedig o gyfrifon gerbron y Cynulliad.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.11
Dechreuodd yr eitem am 17.12
NDM6328 Jeremy Miles (Castell-nedd)
Cymru yn y Byd – meithrin cysylltiadau rhyngwladol Cymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.38
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 20 Mehefin 2017